19. Felly dyma Manoa yn cymryd gafr ifanc ac offrwm o rawn a'i gosod nhw ar garreg i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth anhygoel tra roedd Manoa a'i wraig yn gwylio.
20. Wrth i'r fflamau godi o'r allor dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd i fyny yn y fflamau. Pan welodd Manoa a'i wraig hynny'n digwydd, dyma nhw'n plygu a'u hwynebau i'r llawr.
21. Wnaeth Manoa a'i wraig ddim gweld yr angel eto. Dyna pryd sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd e.
22. A dyma fe'n dweud wrth ei wraig, “Dŷn ni'n mynd i farw! Dŷn ni wedi gweld bod dwyfol!”
23. Ond dyma'i wraig yn dweud, “Petai'r ARGLWYDD eisiau'n lladd ni fyddai e ddim wedi derbyn yr offrwm i'w losgi a'r offrwm o rawn gynnon ni. Fyddai e ddim wedi dangos hyn i gyd a siarad â ni fel y gwnaeth e.”
24. Cafodd gwraig Manoa fab a dyma hi'n rhoi'r enw Samson iddo. Tyfodd y plentyn a dyma'r ARGLWYDD yn ei fendithio.