8. Gwyliwch chi! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD,yn cadw golwg ar y wlad bechadurus.“Dw i'n mynd i'w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear!Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
9. “Gwyliwch chi! Bydda i'n rhoi'r gorchymynac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd,fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr,a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd.
10. Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel,sef y rhai hynny sy'n dweud mor siŵr,‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni,na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’
11. Ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n ailsefydluteyrnas Dafydd sydd wedi syrthio.Bydda i'n trwsio'r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion.Bydda i'n ei adfer i fod fel yr oedd yn yr hen ddyddiau.
12. Byddan nhw'n cymryd meddiant etoo'r hyn sydd ar ôl o wlad Edom,a'r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n mynd i wneud hyn i gyd.
13. “Gwyliwch chi!” meddai'r ARGLWYDD, “Mae'r amser yn dod,pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi'n amser aredig etocyn i'r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu!A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw'n dal i'w sathrupan fydd yr amser wedi dod i hau'r had eto.Bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedda bydd yn llifo i lawr y bryniau.