Amos 9:3-7 beibl.net 2015 (BNET)

3. Petaen nhw'n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel,byddwn i'n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw.A tasen nhw'n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr,byddwn i'n cael y Sarff sydd yno i'w brathu nhw.

4. Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i'r gaethglud,byddwn i'n gorchymyn i'r cleddyf eu lladd nhw yno.Dw i'n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhwac nid da.”

5. Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,ydy'r un sy'n cyffwrdd y ddaear ac mae'n toddi;a bydd pawb sy'n byw arni yn galaru.Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.

6. Mae e'n adeiladu cartref iddo'i hun yn y nefoeddac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear.Mae'n galw'r dŵr o'r môrac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir—yr ARGLWYDD ydy ei enw e!

7. “I mi, bobl Israel, dych chiddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Mae'n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft,ond fi hefyd ddaeth â'r Philistiaid o ynys Cretaa'r Syriaid o Cir.”

Amos 9