15. Ond dyma'r ARGLWYDD yn fy nghymryd i ffwrdd o ffermio defaid, ac yn dweud wrtho i, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’
16. Felly, gwrando, dyma neges yr ARGLWYDD. Ti'n dweud wrtho i am stopio proffwydo i bobl Israel a phregethu i bobl Isaac.
17. Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Bydd dy wraig di yn gwerthu ei chorff fel putain yn y strydoedd,a bydd dy feibion a dy ferched yn cael eu lladd yn y rhyfel.Bydd dy dir di'n cael ei rannu i eraill,a byddi di'n marw mewn gwlad estron.Achos bydd Israel yn cael ei chymryd i ffwrdd yn gaeth o'i thir.’”