Amos 5:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Mae Israel fel merch ifancwedi ei tharo i lawr,mae hi'n gorwedd ar bridd ei gwlada does neb i'w chodi ar ei thraed.”

3. Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel:“Dim ond cant fydd ar ôl yn y dreanfonodd fil allan i'r fyddin,a dim ond deg fydd ar ôl yn y dreanfonodd gant i'r fyddin.”

4. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel:“Tro yn ôl ata i, a chei fyw!

5. Paid troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel,mynd i ymweld â chysegr Gilgalna chroesi'r ffin a mynd i lawr i Beersheba.Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo,a fydd Bethel ddim mwy na rhith!”

6. Tro yn ôl at yr ARGLWYDD, a chei fyw!Os na wnei di bydd e'n rhuthro drwy wlad Joseff fel tânac yn llosgi Bethel yn ulw;a fydd neb yn gallu diffodd y tân.

7. Druan ohonoch chi, sy'n troi cyfiawnder yn beth chwerw,ac yn gwrthod gwneud beth sy'n iawn yn y tir!

8. Duw ydy'r un wnaeth y sêr –Pleiades ac Orïon.Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore,ac yn troi'r dydd yn nos dywyll.Mae e'n cymryd dŵr o'r môrac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir—yr ARGLWYDD ydy ei enw e!

9. Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel,nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion!

10. Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys;ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.

11. Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwma dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd,gewch chi ddim byw ynddyn nhw.Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.

12. Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,ac wedi pechu'n ddiddiwedddrwy gam-drin pobl onest,a derbyn breib i wrthod cyfiawnderi bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!

13. Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel,achos mae'n amser drwg.

14. Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,a chewch fyw!Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,gyda chi go iawn(fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)

15. Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.

Amos 5