Amos 3:7-11 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim bydheb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi.

8. Pan mae'r llew yn rhuo,pwy sydd ddim yn ofni?Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad,felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo?

9. Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdodac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft!Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samariai weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas,a'r gormes sy'n digwydd yno.

10. Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorausydd wedi eu dwyn trwy drais.”

11. Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad!Bydd yn rhwygo popeth oddi arniac yn ei gadael yn noeth.Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!”

Amos 3