Actau 7:58-60 beibl.net 2015 (BNET)

58. Ar ôl ei lusgo allan o'r ddinas dyma nhw'n dechrau taflu cerrig ato i'w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a'u rhoi yng ngofal dyn ifanc o'r enw Saul.

59. Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i'w ladd, roedd Steffan yn gweddïo, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.”

60. Yna syrthiodd ar ei liniau a gweiddi'n uchel, “Arglwydd, paid dal nhw'n gyfrifol am y pechod yma.” Ac ar ôl dweud hynny, buodd farw.

Actau 7