11. Dyna lle roedd y cardotyn a'i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma'r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw.
12. Pan welodd Pedr y bobl o'u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi'n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni'r gallu ynon ni'n hunain i wneud i'r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni'n rhyw bobl arbennig o dduwiol?
13. Duw sydd wedi gwneud y peth – Duw Abraham, Isaac a Jacob; Duw ein cyndeidiau ni. Gwnaeth hyn i anrhydeddu ei was Iesu. Yr Iesu wnaethoch chi ei drosglwyddo i'r awdurdodau Rhufeinig i gael ei ladd. Yr un wnaethoch chi ei wrthod pan oedd Peilat yn fodlon ei ryddhau.
14. Gwrthod yr un glân a chyfiawn, a gofyn iddo ryddhau llofrudd yn ei le.
15. Ie, chi laddodd awdur bywyd, ond dyma Duw yn dod ag e yn ôl yn fyw! Dŷn ni'n dystion i'r ffaith!
16. Iesu roddodd y nerth i'r dyn yma o'ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a'r ffaith ein bod ni'n credu ynddo sydd wedi ei wneud yn iach o flaen eich llygaid chi.
17. “Frodyr a chwiorydd, dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn sylweddoli beth oeddech yn ei wneud; ac mae'r un peth yn wir am eich arweinwyr chi.
18. Ond dyma sut wnaeth Duw gyflawni beth oedd y proffwydi wedi dweud fyddai'n digwydd i'r Meseia, sef fod rhaid iddo ddioddef.
19. Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi'n cael eu maddau.
20. Yna bydd yr Arglwydd yn anfon ei fendith, cyn iddo anfon y Meseia atoch unwaith eto, sef Iesu.