Actau 21:3-10 beibl.net 2015 (BNET)

3. Cael cipolwg ar ynys Cyprus wrth hwylio i'r de o'r ynys, ac yna mynd ymlaen i Syria. Dyma ni'n glanio yn Tyrus lle roedd y llong yn dadlwytho ei chargo.

4. Daethon ni o hyd i'r Cristnogion yno, ac aros gyda nhw am wythnos. Roedden nhw'n pwyso ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem o achos beth roedden nhw'n ei broffwydo drwy'r Ysbryd Glân.

5. Ond mynd ymlaen ar ein taith wnaethon ni pan ddaeth hi'n amser i ni symud. Daethon nhw i gyd i lawr i'r traeth gyda ni i ffarwelio – hyd yn oed y gwragedd a'r plant. Yno dyma ni i gyd yn mynd ar ein gliniau i weddïo.

6. Ar ôl ffarwelio â'n gilydd aethon ni ar y llong a dyma nhw'n mynd adre.

7. Dyma ni'n hwylio ymlaen o Tyrus ac yn glanio wedyn yn Ptolemais. Rhoddodd y Cristnogion yno groeso i ni, a chawson dreulio'r diwrnod gyda nhw.

8. A'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd ymlaen i Cesarea, ac aros yng nghartre Philip yr efengylydd (un o'r saith gafodd eu dewis gan eglwys Jerwsalem i fod yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd i'r gweddwon).

9. Roedd gan Philip bedair o ferched dibriod oedd yn proffwydo.

10. Roedden ni wedi bod yno am rai dyddiau, a dyma broffwyd o'r enw Agabus yn dod yno o Jwdea.

Actau 21