Actau 19:4-13 beibl.net 2015 (BNET)

4. Atebodd Paul, “Bedydd i ddangos eich bod am droi cefn ar bechod oedd bedydd Ioan. Dwedodd Ioan wrth y bobl hefyd am gredu yn yr un oedd i ddod ar ei ôl, sef yn Iesu.”

5. Felly ar ôl clywed hyn dyma nhw'n cael eu bedyddio i ddangos eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu.

6. Wedyn dyma Paul yn rhoi ei ddwylo arnyn nhw, a daeth yr Ysbryd Glân arnyn nhw, a dyma nhw'n dechrau siarad ieithoedd eraill a phroffwydo.

7. (Roedd yno ryw ddwsin o ddynion i gyd.)

8. Am dri mis aeth Paul i'r synagog, a siarad yn gwbl agored yno, a cheisio perswadio'r bobl am deyrnasiad Duw.

9. Ond dyma rhai ohonyn nhw'n troi'n ystyfnig – yn lle credu roedden nhw'n dechrau siarad yn erbyn Ffordd yr Arglwydd Iesu o flaen pawb. Felly dyma Paul yn eu gadael nhw, a mynd â'r credinwyr eraill gydag e. Roedden nhw'n cyfarfod yn narlithfa Tyranus i wrando ar Paul yn dysgu.

10. Aeth hyn ymlaen am ddwy flynedd, nes bod pawb yn nhalaith Asia wedi clywed neges yr Arglwydd, yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.

11. Roedd Duw yn gwneud gwyrthiau anhygoel drwy Paul.

12. Roedd cleifion yn cael eu hiacháu ag ysbrydion drwg yn mynd allan ohonyn nhw pan oedd cadachau a ffedogau oedd wedi ei gyffwrdd yn cael eu cymryd atyn nhw.

13. Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw.

Actau 19