Actau 10:16-23 beibl.net 2015 (BNET)

16. Digwyddodd yn union yr un peth dair gwaith! Yna'n sydyn aeth y gynfas yn ôl i fyny i'r awyr.

17. Roedd Pedr yn methu'n lân â deall beth oedd ystyr y weledigaeth. Yna tra roedd yn meddwl am y peth cyrhaeddodd y dynion roedd Cornelius wedi eu hanfon. Dyma nhw'n sefyll y tu allan i'r giât,

18. a galw i ofyn os oedd Simon Pedr yn aros yno.

19. Yn y cyfamser, tra roedd Pedr yn pendroni am y weledigaeth gafodd, dwedodd yr Ysbryd Glân wrtho, “Simon, mae tri dyn yma'n edrych amdanat ti,

20. felly dos i lawr atyn nhw. Dos gyda nhw, am mai fi sydd wedi eu hanfon nhw. Paid petruso.”

21. Felly dyma Pedr yn mynd i lawr y grisiau a dweud wrth y dynion, “Fi dych chi'n edrych amdano. Pam dych chi yma?”

22. Atebodd y dynion, “Ein meistr ni, Cornelius, sy'n swyddog yn y fyddin sydd wedi'n hanfon ni yma. Mae e'n ddyn da a duwiol sy'n cael ei barchu'n fawr gan yr Iddewon i gyd. Dwedodd angel wrtho am dy wahodd i'w dŷ iddo gael clywed beth sydd gen ti i'w ddweud.”

23. Felly dyma Pedr yn croesawu'r dynion i mewn i'r tŷ i aros dros nos.Y diwrnod wedyn dyma Pedr yn mynd gyda nhw, ac aeth rhai o gredinwyr Jopa gydag e hefyd.

Actau 10