Actau 1:22-26 beibl.net 2015 (BNET)

22. Rhywun fuodd yno drwy'r adeg, o'r dechrau cyntaf pan gafodd ei fedyddio gan Ioan i'r diwedd pan gafodd Iesu ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Rhaid i'r person, fel ni, fod yn dyst i'r ffaith fod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw.”

23. Dyma ddau enw yn cael eu cynnig: Joseff oedd un, sef Barsabas (sy'n cael ei alw'n Jwstus weithiau hefyd), a Mathïas oedd y llall.

24. Felly dyma nhw'n gweddïo, “Arglwydd, rwyt ti'n nabod calon pawb. Dangos i ni pa un o'r ddau yma rwyt ti wedi ei ddewis

25. i wasanaethu fel cynrychiolydd personol i Iesu yn lle Jwdas; mae hwnnw wedi'n gadael ni, ac wedi mynd lle mae'n haeddu.”

26. Yna dyma nhw'n taflu coelbren, a syrthiodd o blaid Mathïas; felly cafodd e ei ddewis i fod yn gynrychiolydd personol i Iesu gyda'r unarddeg.

Actau 1