2 Thesaloniaid 2:5-12 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ydych chi ddim yn cofio mod i wedi dweud hyn i gyd pan oeddwn i gyda chi?

6. Dylech wybod, felly, am y grym sy'n ei ddal yn ôl rhag iddo ddod i'r golwg cyn i'r amser iawn gyrraedd.

7. Wrth gwrs, mae'r dylanwad dirgel sy'n hybu drygioni eisoes ar waith. Ond fydd y dirgelwch ddim ond yn aros nes bydd yr un sy'n ei ddal yn ôl ar hyn o bryd yn cael ei symud o'r neilltu.

8. Wedyn bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg. Ond bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd drwy ddim ond chwythu arno! Bydd yn ei ddinistrio wrth ddod yn ôl gyda'r fath ysblander.

9. Pan fydd yr un drwg yn dod, bydd yn gwneud gwaith Satan. Bydd ganddo'r nerth i wneud gwyrthiau syfrdanol, a rhyfeddodau ffug eraill.

10. Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo'r rhai sy'n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu'r gwir fyddai'n eu hachub nhw.

11. Mae Duw yn eu barnu nhw drwy anfon rhith twyllodrus fydd yn gwneud iddyn nhw gredu celwydd.

12. Felly bydd pawb sy'n gwrthod credu'r gwir ac sydd wedi bod yn mwynhau gwneud drygioni yn cael eu cosbi.

2 Thesaloniaid 2