12. Yng nghanol y creisis dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid.
13. Clywodd yr ARGLWYDD ei weddi a gwrando ar ei gais, a dod ag e'n ôl i fod yn frenin yn Jerwsalem. A dyna sut daeth Manasse i ddeall mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.
14. Wedi hyn dyma Manasse yn ailadeiladu wal allanol Dinas Dafydd, o'r gorllewin i ddyffryn Gihon at Giât y Pysgod ac yna o gwmpas y terasau. Roedd hi'n wal uchel iawn. Gosododd swyddogion milwrol yn holl drefi amddiffynnol Jwda hefyd.
15. Yna dyma fe'n cael gwared â'r duwiau paganaidd a'r ddelw honno o deml yr ARGLWYDD, a'r holl allorau roedd e wedi eu hadeiladu ar fryn y deml ac yn Jerwsalem. Taflodd nhw allan o'r ddinas,
16. ac yna atgyweirio allor yr ARGLWYDD a chyflwyno arni offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Yna dyma fe'n gorchymyn fod pobl Jwda i addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel.
17. Roedd y bobl yn dal i aberthu ar yr allorau lleol, ond dim ond i'r ARGLWYDD eu Duw.
18. Mae gweddill hanes Manasse, gan gynnwys ei weddi ar Dduw, a beth roedd y proffwydi wedi ei ddweud wrtho ar ran yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'w gweld yn Hanes Brenhinoedd Israel.
19. Mae Negeseuon y Proffwydi hefyd yn cynnwys ei weddi a sut wnaeth Duw ymateb, cofnod o'i bechodau a'r holl bethau drwg wnaeth e, a lleoliad yr allorau lleol a polion y dduwies Ashera a'r delwau cerrig gododd e cyn iddo gyfaddef ei fai.
20. Pan fuodd Manasse farw cafodd ei gladdu yn ei balas. A dyma Amon ei fab yn dod yn frenin yn ei le.