14. Disgynyddion Heman: Iechiel a ShimeiDisgynyddion Iedwthwn: Shemaia ac Wssiel.
15. Yna dyma nhw'n casglu gweddill y Lefiaid at ei gilydd a mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. A wedyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, fel roedd y brenin wedi dweud. Roedden nhw'n gwneud popeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
16. Aeth yr offeiriaid i mewn i'r deml i'w phuro. A dyma nhw'n dod รข phopeth oedd yn aflan allan i'r iard, cyn i'r Lefiaid fynd a'r cwbl allan i ddyffryn Cidron.
17. Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr ARGLWYDD. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a cafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis.