1. Roedd Jotham yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc.
2. Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. (Ond wnaeth e ddim beiddio torri rheolau'r deml fel y gwnaeth ei dad). Ac eto roedd y bobl yn dal i bechu.
3. Jotham adeiladodd Giât Uchaf y deml, a gwnaeth lot o waith yn ailadeiladu'r wal wrth fryn Offel.
4. Adeiladodd drefi ar fryniau Jwda, a chaerau a thyrau amddiffynnol yn y coedwigoedd.
5. Aeth i ryfel yn erbyn brenin yr Ammoniaid, a'i drechu. Talodd yr Ammoniaid dros dair mil cilogram o arian, mil o dunelli o wenith a mil o dunelli o haidd iddo. Roedd rhaid iddyn nhw dalu yr un faint y ddwy flynedd ganlynol hefyd.