2 Cronicl 26:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. Roedd yr Ammoniaid yn talu trethi iddo hefyd, a daeth yn enwog hyd at ffiniau gwlad yr Aifft am ei fod mor gryf.

9. Dyma Wseia'n adeiladu a chryfhau tyrau amddiffynnol yn Jerwsalem, wrth Giât y Gornel, Giât y Dyffryn a lle mae'r ongl yn y wal.

10. Adeiladodd dyrau amddiffynnol a chloddio pydewau yn yr anialwch hefyd, gan fod ganddo lawer o anifeiliaid yn Seffela ac ar y gwastadedd. Roedd yn hoff iawn o ffermio. Roedd ganddo weithiwr yn trin y tir a gofalu am y gwinllannoedd ar y bryniau ac yn Carmel.

11. Roedd gan Wseia fyddin o filwyr yn barod i ryfela. Roedden nhw wedi cael eu trefnu yn gatrawdau gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia oedd yn swyddog yn y fyddin. Chananeia, un o swyddogion y brenin, oedd yn goruchwylio'r cyfan.

12. Roedd yna 2,600 o bennau teuluoedd yn arwain catrawd o filwyr yn y fyddin.

13. Roedd byddin o 370,500 o filwyr ganddyn nhw, yn barod i amddiffyn y brenin yn erbyn ei elynion.

14. Dyma Wseia'n paratoi digon o darianau, gwaywffyn, helmedau, arfwisg, bwâu a ffyn tafl a cherrig i'r fyddin gyfan.

15. Dyma fe'n cael pobl i ddyfeisio peiriannau rhyfel a'u gosod ar dyrau a chorneli waliau Jerwsalem. Roedd y rhain yn gallu taflu saethau a cherrig mawr. Roedd Duw wedi helpu Wseia a'i wneud yn arweinydd pwerus iawn, ac roedd yn enwog yn bell ac agos.

16. Ond wrth fynd yn gryf dyma fe'n troi'n falch. Ac aeth ei falchder yn drech nag e. Bu'n anffyddlon i'r ARGLWYDD ei Dduw. Aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD a llosgi arogldarth ar allor yr arogldarth.

17. Dyma Asareia ac wyth deg o offeiriaid dewr yn mynd ar ei ôl.

2 Cronicl 26