2. Ond cafodd Shemaia y proffwyd neges gan yr ARGLWYDD.
3. “Dywed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Israel yn Jwda a Benjamin:
4. ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a wnaethon nhw ddim ymosod ar Jeroboam.
5. Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem. Trodd nifer o drefi yn Jwda yn gaerau amddiffynnol:
6. Bethlehem, Etam, Tecoa,
7. Beth-Tswr, Socho, Adwlam,
8. Gath, Maresha, Siff,
9. Adoraim, Lachish, Aseca,