2 Cronicl 1:11-17 beibl.net 2015 (BNET)

11. A dyma Duw'n ateb Solomon, “Am mai dyna rwyt ti eisiau, y ddoethineb a'r wybodaeth i lywodraethu'r bobl yma'n iawn – a dy fod ddim wedi gofyn am feddiannau, cyfoeth, ac anrhydedd, neu i'r rhai sy'n dy gasáu gael eu lladd; wnest ti ddim hyd yn oed gofyn am gael byw yn hir –

12. dw i'n mynd i roi doethineb a gwybodaeth i ti. Ond dw i hefyd yn mynd i roi mwy o gyfoeth, meddiannau, ac anrhydedd i ti nag unrhyw frenin ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.”

13. Felly dyma Solomon yn gadael Pabell Presenoldeb Duw oedd wrth yr allor yn Gibeon, a mynd yn ôl i Jerwsalem, lle roedd yn teyrnasu ar Israel.

14. Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem.

15. Roedd arian ac aur mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.

16. Roedd ceffylau Solomon wedi eu mewnforio o'r Aifft a Cwe. Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe.

17. Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a cant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.

2 Cronicl 1