2 Corinthiaid 6:11-18 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ffrindiau annwyl Corinth, dŷn ni wedi bod yn gwbl agored gyda chi. Dŷn ni wedi rhoi'n hunain yn llwyr i chi!

12. Dŷn ni ddim yn dal ein cariad yn ôl, chi sy'n dal yn ôl.

13. Dewch yn eich blaen – dw i'n siarad â chi fel fy mhlant i – derbyniwch ni.

14. Dych chi'n wahanol i bobl sydd ddim yn credu – felly peidiwch ymuno â nhw. Ydy cyfiawnder a drygioni'n gallu bod yn bartneriaid? Neu olau a thywyllwch?

15. Ydy'r Meseia a'r diafol yn creu harmoni? Beth sydd gan rywun sy'n credu a rhywun sydd ddim yn credu yn gyffredin?

16. Ydy'n iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw? Na! A dŷn ni gyda'n gilydd yn deml i'r Duw byw. Fel mae Duw ei hun wedi dweud: “Bydda i'n byw gyda nhw ac yn symud yn eu plith nhw; fi fydd eu Duw nhw a nhw fydd fy mhobl i.”

17. Felly mae'r Arglwydd yn dweud, “Dewch allan o'u canol nhw a bod yn wahanol.” “Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan, a chewch eich derbyn gen i.”

18. “Bydda i'n Dad i chi, a byddwch chi yn feibion a merched i mi,” meddai'r Arglwydd Hollalluog.

2 Corinthiaid 6