2 Brenhinoedd 9:11-26 beibl.net 2015 (BNET)

11. Pan aeth Jehw allan at swyddogion eraill ei feistr, dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy popeth yn iawn? Pam wnaeth yr idiot yna ddod i dy weld di?”A dyma fe'n ateb, “O, dych chi'n gwybod am y math yna o foi a'i rwdlan.”

12. “Ti a dy gelwyddau!” medden nhw, “Dywed wrthon ni beth ddwedodd e.”Felly dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma beth ddwedodd e, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.”’”

13. Heb oedi dim, dyma pob un ohonyn nhw yn gafael yn ei glogyn a'i roi dan draed Jehw ar ben y grisiau. Wedyn dyma'r corn hwrdd yn cael ei ganu, a pawb yn gweiddi, “Jehw ydy'r brenin!”

14. Felly dyma Jehw yn cynllwyn yn erbyn Joram. (Roedd Joram wedi bod gyda byddin Israel yn Ramoth-gilead, yn amddiffyn y wlad rhag Hasael, brenin Syria.

15. Ond roedd e wedi cael ei anafu, ac wedi mynd yn ôl i Jesreel i wella o'i glwyfau.) A dyma Jehw yn dweud wrth ei ddilynwyr, “Os ydych chi wir ar fy ochr i, peidiwch gadael i neb ddianc o'r ddinas i'w rhybuddio nhw yn Jesreel.”

16. Yna dyma Jehw yn mynd yn ei gerbyd i Jesreel, lle roedd Joram yn gorwedd yn wael. (Dyna hefyd pryd roedd Ahaseia, brenin Jwda, wedi mynd i ymweld â Joram.)

17. Roedd gwyliwr ar ddyletswydd ar dŵr tref Jesreel. A dyma fe'n gweld Jehw a'i filwyr yn dod. Dyma fe'n gweiddi, “Dw i'n gweld milwyr yn dod!”Dyma Joram yn gorchymyn, “Anfonwch farchog allan i'w cyfarfod i ofyn ydyn nhw'n dod yn heddychlon.”

18. Felly dyma'r marchog yn mynd i'w cyfarfod, a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’”Dyma Jehw yn ateb, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.”A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl.”

19. Felly dyma Joram yn anfon ail farchog. Aeth hwnnw atyn nhw a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’”A dyma Jehw yn ateb eto, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.”

20. A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud eto, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl. Mae pwy bynnag sy'n y cerbyd ar y blaen yn gyrru'n hurt; mae'n gyrru fel Jehw fab Nimshi!”

21. Yna dyma Joram yn dweud, “Gwnewch y cerbyd yn barod i mi.” Pan oedden nhw wedi gwneud hynny, dyma Joram, brenin Israel, ac Ahaseia, brenin Jwda, yn mynd allan yn eu cerbydau eu hunain i gyfarfod Jehw. Dyma nhw'n cwrdd ar y darn o dir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel.

22. A dyma Joram yn gofyn i Jehw, “Ydy popeth yn iawn, Jehw?”Ond dyma Jehw yn ateb, “Fydd pethau byth yn iawn tra mae dy fam di, Jesebel, yn gwthio pobl i addoli eilunod a dewino!”

23. Yna dyma Joram yn troi ei gerbyd i geisio dianc, ac yn gweiddi ar Ahaseia, “Mae'n frad, Ahaseia!”

24. Ond dyma Jehw yn anelu ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau. Aeth y saeth drwy ei galon, a syrthiodd yn farw yn ei gerbyd.

25. Wedyn dyma Jehw yn dweud wrth Bidcar, ei is-gapten, “Cymer y corff a'i daflu ar y darn tir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel. Wyt ti'n cofio? Pan oedd y ddau ohonon ni'n gwasanaethu Ahab ei dad, roedd yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn yn ei erbyn:

26. ‘Yn wir dw i wedi gweld gwaed Naboth a'i feibion, ddoe,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘A bydda i'n talu'n ôl i ti ar yr union ddarn yma o dir.’ Felly cymer y corff a'i daflu ar y darn tir yna fel dwedodd yr ARGLWYDD.”

2 Brenhinoedd 9