2 Brenhinoedd 5:7-15 beibl.net 2015 (BNET)

7. Ar ôl darllen y llythyr dyma frenin Israel yn rhwygo ei ddillad a gweiddi, “Ai Duw ydw i? Oes gen i awdurdod dros fywyd a marwolaeth, neu awdurdod i iacháu y dyn yma mae e wedi ei anfon ata i? Gwyliwch chi, chwilio am esgus i ymosod arnon ni mae e!”

8. Pan glywodd y proffwyd Eliseus fod y brenin wedi rhwygo ei ddillad, dyma fe'n anfon neges ato: “Pam wyt ti wedi rhwygo dy ddillad? Anfon e ata i, iddo gael gwybod bod yna broffwyd yn Israel.”

9. Felly dyma Naaman yn mynd, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll y tu allan i dŷ Eliseus.

10. A dyma Eliseus yn anfon neges ato. “Dos i ymolchi saith gwaith yn yr Afon Iorddonen, a bydd dy groen di'n gwella a byddi'n lân eto.”

11. Ond dyma Naaman yn mynd i ffwrdd, wedi gwylltio. “Roeddwn i'n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae'r afiechyd, a'm gwella i.

12. A beth bynnag, onid ydy afonydd Abana a Parpar yn Damascus, yn well na holl afonydd Israel gyda'i gilydd? Allwn i ddim bod wedi ymolchi yn y rheiny i gael fy iacháu?” Ac i ffwrdd ag e mewn tymer.

13. Ond dyma ei weision yn mynd ato, a dweud, “Syr, petai'r proffwyd wedi gofyn i ti wneud rhywbeth anodd, oni fyddet wedi ei wneud o? Y cwbl mae e'n ei ofyn ydy, ‘Dos i ymolchi, a byddi'n lân.’”

14. Felly dyma fe'n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn yr Afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma'i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.

15. Yna dyma fe, a'i filwyr i gyd, yn mynd yn ôl at y proffwyd. Dyma Naaman yn sefyll o'i flaen a dweud wrtho “Dw i'n gwybod nawr fod yna ddim Duw go iawn yn unman arall ond yn Israel! Plîs, wnei di dderbyn anrheg gen i, dy was?”

2 Brenhinoedd 5