8. Wna i ddim gyrru Israel allan o'r tir dw i wedi ei roi i'w hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith wnaeth fy ngwas Moses ei rhoi iddyn nhw.”
9. Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o flaen Israel!
10. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud drwy ei broffwydi:
11. “Mae Manasse, brenin Jwda wedi gwneud pethau ffiaidd, ac wedi pechu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen. Mae wedi gwneud i bobl Jwda bechu hefyd, drwy addoli ei eilunod ffiaidd.
12. Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddod â dinistr ar Jerwsalem a Jwda. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn geg agored.
13. Dw i'n mynd i wneud i Jerwsalem beth wnes i i Samaria ac i linach Ahab. Bydda i'n sychu Jerwsalem yn lân fel mae rhywun yn sychu dysgl a'i throi hi wyneb i waered.
14. Bydda i'n gwrthod y rhai sydd ar ôl o'm pobl, a'u rhoi nhw i'w gelynion. Byddan nhw fel ysbail i'w gasglu a gwobrau rhyfel i'w gelynion.
15. Mae hyn am eu bod wedi gwneud pethau drwg, ac wedi fy nigio i, o'r diwrnod y daeth eu hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw!”