2 Brenhinoedd 12:18-20-21 beibl.net 2015 (BNET)

18. Ond dyma Joas, brenin Jwda, yn talu arian mawr iddo beidio ymosod. Cymerodd Joas y cwbl roedd e a'r brenhinoedd o'i flaen (Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia) wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD. Cymerodd yr aur oedd yn stordai'r deml a'r palas hefyd, ac anfon y cwbl i Hasael brenin Syria. Felly dyma Hasael a'i fyddin yn troi'n ôl a peidio ymosod ar Jerwsalem.

19. Mae gweddill hanes Joas, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Jwda.

20-21. Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le.

2 Brenhinoedd 12