6. Bydd un rhan o dair arall wedi cymryd eu lle wrth giât Swr. A'r gweddill wrth y giât sydd tu ôl i'r gwarchodlu brenhinol.
7. Bydd dwy o'r unedau sydd ddim ar ddyletswydd ar y Saboth yn dod i warchod y deml ac amddiffyn y brenin.
8. Rhaid i chi sefyll o'i gwmpas gyda'ch arfau yn eich dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod yn agos atoch, lladdwch e. Dych chi i aros gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.”
9. Dyma gapteiniaid yr unedau yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd), a dod â nhw at Jehoiada.
10. Yna dyma'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau i'r capteniaid, sef arfau y brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD.
11. Yna dyma'r gwarchodlu brenhinol yn cymryd eu lle, gyda'i harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr i'r deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin.