9. Yna'r bore wedyn dyma Jehw yn mynd allan yno, a dweud wrth y bobl, “Dych chi ddim ar fai. Fi ydy'r un wnaeth gynllwyn yn erbyn y brenin Joram, fy meistr, a'i ladd. Ond pwy laddodd y rhain?
10. Mae'n hollol amlwg fod popeth ddwedodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi dod yn wir. Fe sydd wedi gwneud yn union fel roedd wedi ei addo trwy ei was Elias.”
11. Yna dyma Jehw yn mynd ati i ladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, y rhai oedd wedi bod mewn swyddi amlwg yn ei lys, ei ffrindiau a'r offeiriaid oedd gydag e. Gafodd neb ei adael yn fyw.
12. Dyma Jehw yn cychwyn am Samaria. Ar y ffordd yno, wrth Beth-eced y Bugeiliaid,
13. dyma fe'n dod ar draws rhai o berthnasau Ahaseia, brenin Jwda. “Pwy ydych chi?” gofynnodd iddyn nhw.A dyma nhw'n ateb, “Perthnasau i Ahaseia. Dŷn ni ar ein ffordd i ymweld â plant y brenin a phlant y fam-frenhines.”