3. Maen nhw'n rhwystro pobl rhag priodi ac yn gorchymyn iddyn nhw beidio bwyta rhai bwydydd. Ond Duw greodd y bwydydd hynny i'w derbyn yn ddiolchgar gan y rhai sy'n credu ac sy'n gwybod beth ydy'r gwir.
4. Ac mae popeth mae Duw wedi ei greu yn dda! Felly dylen ni dderbyn y cwbl yn ddiolchgar.
5. Mae Duw wedi dweud ei fod yn iawn i'w fwyta a dylen ni ddiolch amdano mewn gweddi.
6. Os gwnei di ddysgu hyn i bawb arall, a bwydo dy hun ar wirioneddau'r ffydd a'r ddysgeidiaeth dda rwyt wedi ei derbyn, byddi di'n was da i Iesu y Meseia.
7. Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy'n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw.
8. Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach – mae'n dda i ti yn y bywyd hwn a'r bywyd sydd i ddod.
9. Ydy, mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb gredu'r peth.
10. Dyma'r rheswm pam dŷn ni'n dal ati i weithio'n galed ac ymdrechu. Dŷn ni wedi ymddiried yn y Duw byw, sy'n achub pob math o bobl – pawb sy'n credu.
11. Gwna'n siŵr fod pobl yn gwybod y pethau hyn a dysga nhw.