4. Yna pan godon nhw'n gynnar y bore wedyn roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb eto o flaen Arch Duw. Roedd ei ben a'i ddwy law wedi eu torri i ffwrdd, ac yn gorwedd wrth y drws. Dim ond corff Dagon oedd yn un darn.
5. (Dyna pam mae offeiriaid Dagon hyd heddiw, a phawb arall sy'n dod i deml Dagon, yn osgoi camu ar stepen drws y deml yn Ashdod.)
6. Cosbodd yr ARGLWYDD bobl Ashdod yn drwm, ac achosi hafoc yno. Cafodd pobl Ashdod, a'r ardal o'i chwmpas, eu taro'n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw.
7. Pan sylweddolodd pobl Ashdod beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n dweud, “Ddylai Arch Duw Israel ddim aros yma gyda ni. Mae e wedi'n taro ni a Dagon ein duw ni!”
8. Felly dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd, a gofyn, “Be wnawn ni ag Arch Duw Israel?” A dyma nhw'n ateb, “Ei symud hi i Gath”. Felly dyma nhw'n symud yr Arch yno.
9. Ond wedi iddi gyrraedd Gath, dyma'r ARGLWYDD yn cosbi'r dref honno hefyd. Cafodd pawb eu taro gyda chwyddau cas. Roedd hi'n banig llwyr yno!