1 Samuel 22:12-15 beibl.net 2015 (BNET)

12. “Gwranda, fab Achitwf,” meddai Saul wrtho. A dyma fe'n ateb, “Ie, syr?”

13. Ac meddai Saul, “Pam wyt ti a mab Jesse wedi cynllwyn yn fy erbyn i? Rhoist ti fara a chleddyf iddo. Wedyn gweddïo am arweiniad Duw iddo, i wrthryfela yn fy erbyn i! Mae e wrthi heddiw yn paratoi i ymosod arna i!”

14. Dyma Achimelech yn ateb y brenin, “Pwy o dy holl weision di sy'n fwy ffyddlon i ti na Dafydd? Dy fab-yng-nghyfraith di ydy e! Capten dy warchodlu di! Mae e'n uchel ei barch gan bawb yn dy balas.

15. Ai dyna'r tro cyntaf i mi weddïo am arweiniad Duw iddo? Wrth gwrs ddim! Ddylai'r brenin ddim fy nghyhuddo i, na neb arall o'm teulu, o wneud dim o'i le. Doeddwn i'n gwybod dim byd o gwbl am y peth.”

1 Samuel 22