1. Dyma Dafydd yn mynd i Nob ble roedd Achimelech yn offeiriad. Roedd Achimelech yn nerfus iawn pan aeth allan at Dafydd, a gofynnodd iddo, “Pam wyt ti ar dy ben dy hun, a neb gyda ti?”
2. A dyma Dafydd yn ateb, “Y brenin sydd wedi gofyn i mi wneud rhywbeth. Mae wedi dweud fod neb i gael gwybod pam na ble dw i'n mynd. Dw i wedi trefnu i'r milwyr fy nghyfarfod i mewn lle arbennig.
3. Nawr, beth alli di ei roi i mi? Rho bum torth i mi, neu faint bynnag sydd gen ti.”