1 Samuel 20:11-23 beibl.net 2015 (BNET)

11. “Tyrd, gad i ni fynd allan i'r caeau,” meddai Jonathan wrtho.Pan oedd y ddau ohonyn nhw allan yn y cae,

12. dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Dw i'n addo o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel: erbyn yr adeg yma'r diwrnod ar ôl fory bydda i wedi darganfod beth ydy agwedd dad atat ti. Os ydy ei agwedd e atat ti'n iach, bydda i'n anfon rhywun i adael i ti wybod.

13. Os ydy e am wneud drwg i ti, boed i Dduw ddial arna i os gwna i ddim gadael i ti wybod a dy helpu di i ddianc yn saff! Dw i'n gweddïo y bydd Duw gyda ti fel roedd e gyda dad.

14. Fel mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon, bydd dithau'n driw i mi tra bydda i byw. A hyd yn oed pan fydda i wedi marw,

15. paid troi dy gefn ar dy ymrwymiad i'm teulu i. A pan fydd yr ARGLWYDD wedi cael gwared â phob un o dy elynion di oddi ar wyneb y ddaear

16. a'i galw nhw i gyfri, paid gadael i rwyg godi rhyngddo i, Jonathan a theulu Dafydd.”

17. A dyma Jonathan yn mynd ar ei lw unwaith eto am ei fod yn caru Dafydd – roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.

18. Meddai Jonathan, “Mae hi'n Ŵyl y lleuad newydd fory. Bydd dy le di wrth y bwrdd yn wag, a byddan nhw'n dy golli di.

19. Y diwrnod wedyn bydd yn fwy amlwg fyth. Dos di i'r lle roeddet ti o'r blaen, a chuddio wrth Garreg Esel.

20. Gwna i saethu tair saeth at ei hymyl hi, fel petawn i'n saethu at darged.

21. Wedyn pan fydda i'n anfon gwas i nôl y saethau, os bydda i'n dweud, ‘Edrych, mae'r saethau yr ochr yma i ti. Dos i'w nôl nhw,’ yna gelli ddod yn ôl. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw byddi'n saff, does yna ddim peryg.

22. Ond os bydda i'n dweud wrth y bachgen, ‘Edrych, mae'r saethau yn bellach draw,’ yna, rhaid i ti ddianc. Yr ARGLWYDD fydd wedi dy anfon di i ffwrdd.

23. Mae'r ARGLWYDD yn dyst i bopeth dŷn ni wedi ei addo i'n gilydd.”

1 Samuel 20