6. Yr ARGLWYDD sy'n lladd a rhoi bywyd.Fe sy'n gyrru rhai i'r bedd ac yn achub eraill oddi yno.
7. Yr ARGLWYDD sy'n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog;fe sy'n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny.
8. Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw,a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwrieli eistedd gyda'r bobl fawrar y sedd anrhydedd.Duw sy'n dal colofnau'r ddaear,a fe roddodd y byd yn ei le arnyn nhw.
9. Mae e'n gofalu am y rhai sy'n ffyddlon iddo,ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch,achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.
10. Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu dryllio,bydd e'n taranu o'r nefoedd yn eu herbyn.Yr ARGLWYDD sy'n barnu'r byd i gyd.Mae'n rhoi grym i'w frenin,a buddugoliaeth i'r un mae wedi ei ddewis.”
11. Yna aeth Elcana adre i Rama. Ond arhosodd y bachgen Samuel i wasanaethu'r ARGLWYDD dan ofal Eli, yr offeiriad.
12. Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.