12. A dyma Michal yn gollwng Dafydd allan drwy'r ffenest. A dyna sut wnaeth e ddianc.
13. Yna dyma Michal yn rhoi eilun-ddelw teuluol yn y gwely, rhoi carthen o flew geifr wrth ei ben, a rhoi dillad Dafydd drosto.
14. Pan ddaeth dynion Saul i arestio Dafydd, dyma hi'n dweud wrthyn nhw, “Mae e'n sâl.”
15. Ond dyma Saul yn anfon y dynion yn ôl i chwilio am Dafydd. “Dewch â fe yma ar ei wely os oes rhaid, i mi gael ei ladd e.”
16. Pan aethon nhw yn ôl, dyma nhw'n dod o hyd i'r eilun-ddelw yn y gwely a'r blew gafr lle byddai'r pen.
17. Dyma Saul yn rhoi pryd o dafod i Michal, “Pam wnest ti fy nhwyllo i fel yma? Ti wedi gadael i'm gelyn i ddianc!” A dyma hi'n ei ateb, “Dwedodd e wrtho i ‘Well i ti helpu fi i ddianc neu gwna i dy ladd di!’”
18. Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda'r gymuned o broffwydi.
19. Ond dwedodd rhywun wrth Saul fod Dafydd gyda'r gymuned yn Rama.
20. Felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw'n gweld grŵp o broffwydi yn proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo.