1 Samuel 17:35-51 beibl.net 2015 (BNET)

35. Bydda i'n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o'i geg. Petai'n ymosod arna i, byddwn i'n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a'i ladd.

36. Syr, dw i wedi lladd llew ac arth. A bydda i'n gwneud yr un fath i'r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw!

37. Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a'r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!”Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A'r ARGLWYDD fo gyda ti.”

38. Yna dyma Saul yn rhoi ei arfwisg e'i hun i Dafydd ei gwisgo – helmed bres ar ei ben, a'i arfwisg bres amdano.

39. Wedyn dyma Dafydd yn rhwymo cleddyf Saul am ei ganol a cheisio cerdded. Ond roedd e'n methu. “Alla i ddim cerdded yn y rhain,” meddai fe wrth Saul. “Dw i ddim wedi arfer gyda nhw.” Felly tynnodd nhw i ffwrdd.

40. Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o'r sychnant a'u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu'r Philistiad gyda'i ffon dafl yn ei law.

41. Roedd y Philistiad yn dod yn nes at Dafydd gyda'i was yn cario'i darian o'i flaen.

42. Pan welodd e Dafydd roedd e'n wfftio am mai bachgen oedd e – bachgen ifanc, golygus, iach yr olwg.

43. A dyma fe'n dweud wrth Dafydd, “Wyt ti'n meddwl mai ci ydw i, dy fod yn dod allan yn fy erbyn i â ffyn?” Ac roedd e'n rhegi Dafydd yn enw ei dduwiau,

44. a gweiddi, “Tyrd yma i mi gael dy roi di'n fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion!”

45. Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti'n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i'n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD holl-bwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti'n ei herio.

46. Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i'n mynd i dy ladd di a torri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw.

47. A bydd pawb sydd yma yn dod i weld fod yr ARGLWYDD ddim yn achub gyda chleddyf a gwaywffon. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e'n eich rhoi chi yn ein gafael ni.”

48. Dyma'r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i'w gyfarfod.

49. Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a'i hyrddio at y Philistiad gyda'i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr.

50. (Dyna sut wnaeth Dafydd guro'r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!)

51. Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe'n tynnu cleddyf y Philistiad allan o'r wain, ei ladd, a torri ei ben i ffwrdd.Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi ei ladd, dyma nhw'n ffoi.

1 Samuel 17