1 Samuel 15:5-12 beibl.net 2015 (BNET)

5. Aeth Saul a'i fyddin i gyfeiriad y trefi lle roedd yr Amaleciaid yn byw, a chuddio yn y sychnant yn barod i ymosod.

6. Wedyn anfonodd neges at y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd o'r ardal. Peidiwch aros gyda'r Amaleciaid, rhag i chi gael eich difa gyda nhw. Buoch chi'n garedig wrth bobl Israel pan oedden nhw'n dod o'r Aifft.” Felly dyma'r Ceneaid yn gadael yr Amaleciaid.

7. Yna dyma Saul yn ymosod ar yr Amaleciaid a'u taro o Hafila yr holl ffordd i Shwr sydd wrth ymyl yr Aifft.

8. Cafodd Agag, brenin yr Amaleciaid, ei ddal yn fyw, ond cafodd ei bobl i gyd eu lladd â'r cleddyf.

9. Dyma Saul a'i fyddin yn gadael i Agag fyw, a dyma nhw hefyd yn cadw'r gorau o'r defaid a'r geifr, y gwartheg, y lloi, yr ŵyn ac unrhyw beth arall oedd o werth. Doedden nhw ddim am ladd yr anifeiliaid gorau, ond cafodd y rhai gwael a diwerth i gyd eu lladd.

10. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Samuel,

11. “Dw i'n sori mod i wedi gwneud Saul yn frenin. Mae e wedi troi cefn arna i, a dydy e ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud.” Roedd Samuel wedi ypsetio'n lân, a bu'n crefu ar yr ARGLWYDD am y peth drwy'r nos.

12. Yn gynnar iawn y bore wedyn aeth Samuel i weld Saul. Ond dyma rywun yn dweud wrtho fod Saul wedi mynd i dref Carmel i godi cofeb iddo'i hun yno, ac yna ymlaen i Gilgal.

1 Samuel 15