1 Samuel 15:16-26 beibl.net 2015 (BNET)

16. Ond dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Taw, i mi gael dweud wrthot ti beth ddwedodd Duw wrtho i neithiwr.”“Dywed wrtho i,” meddai Saul.

17. Ac meddai Samuel, “Pan oeddet ti'n meddwl dy fod ti'n neb o bwys, cest ti dy wneud yn arweinydd ar lwythau Israel. Dewisodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel.

18. Wedyn dyma fe'n dy anfon di allan a dweud, ‘Dos i ddinistrio'r Amaleciaid drwg yna. Ymladd yn eu herbyn nhw a dinistria nhw'n llwyr.’

19. Felly pam wnest ti ddim gwrando? Yn lle hynny, dyma ti'n rhuthro ar yr ysbail i gael be fedret ti i ti dy hun. Ti wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.”

20. Ond dyma Saul yn ateb Samuel, “Ond dw i wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD! Es i ar yr ymgyrch fel roedd e wedi dweud. Dw i wedi dal y Brenin Agag ac wedi dinistrio'r Amaleciaid yn llwyr.

21. Cymerodd y fyddin y defaid a'r gwartheg gorau i'w haberthu nhw i'r ARGLWYDD dy Dduw yma yn Gilgal!”

22. Yna dyma Samuel yn dweud,“Beth sy'n rhoi mwya o bleser i'r ARGLWYDD?Aberth ac offrwm i'w losgi, neu wneud beth mae e'n ddweud?Mae gwrando yn well nag aberth;mae talu sylw yn well na brasder hyrddod.

23. Mae gwrthryfela yn bechod, fel dablo mewn dewiniaeth,ac mae anufudd-dod mor ddrwg ac addoli eilunod.Am dy fod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDDmae e wedi dy wrthod di fel brenin.”

24. Dyma Saul yn cyfaddef i Samuel, “Dw i wedi pechu. Dw i wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD a gwrthod gwrando arnat ti. Roedd gen i ofn y milwyr, a dyma fi'n gwneud beth oedden nhw eisiau.

25. Plîs maddau i mi. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD.”

26. “Na,” meddai Samuel, “wna i ddim mynd yn ôl hefo ti. Ti wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ac mae e wedi dy wrthod di yn frenin ar Israel.”

1 Samuel 15