1 Pedr 1:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Pedr, cynrychiolydd personol Iesu Grist.Atoch chi sydd wedi'ch dewis gan Dduw i fod yn bobl iddo'i hun. Chi sy'n byw ar wasgar drwy daleithiau Rhufeinig Pontus, Galatia, Capadocia, Asia a Bithynia, er mai dim dyna'ch cartref go iawn chi.

2. Cawsoch eich dewis ymlaen llaw gan Dduw y Tad, a'ch cysegru gan yr Ysbryd Glân i fod yn bobl ufudd i Iesu Grist, wedi'ch glanhau trwy ei waed.Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a'i heddwch dwfn arnoch chi.

3. Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi bod mor drugarog aton ni. Mae'n ddechrau cwbl newydd! Dŷn ni wedi cael ein geni unwaith eto! Ac am ei fod wedi codi Iesu Grist yn ôl yn fyw dŷn ni'n edrych ymlaen yn hyderus i'r dyfodol.

4. Mae gan Dduw etifeddiaeth i'w rhannu gyda'i blant – un fydd byth yn darfod, nac yn difetha nac yn diflannu. Mae'n ei chadw ar eich cyfer chi yn y nefoedd!

1 Pedr 1