1 Cronicl 6:50-59 beibl.net 2015 (BNET)

50. Dyma ddisgynyddion Aaron:Eleasar ei fab, wedyn Phineas ei fab e, ac ymlaen drwy Afishŵa,

51. Bwcci, Wssi, Seracheia,

52. Meraioth, Amareia, Achitwf,

53. Sadoc, ac Achimaats.

54. A dyma'r ardaloedd lle roedd disgynyddion Aaron yn byw:Dyma'r ardaloedd gafodd eu rhoi i glan Cohath (Nhw oedd y grŵp cyntaf i gael eu rhan):

55. Dyma nhw'n cael tref Hebron yn Jwda, a'r tir pori o'i chwmpas.

56. (Ond roedd caeau'r dref a'r pentrefi o'i chwmpas wedi eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne.)

57. Cafodd disgynyddion Aaron y trefi lloches canlynol hefyd: Hebron, Libna, Iattir, Eshtemoa,

58. Cholon, Debir,

59. Ashan, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un.

1 Cronicl 6