31. Dyma'r rhai oedd Dafydd wedi eu penodi i arwain y gerddoriaeth yn y cysegr, ar ôl i'r arch gael ei gosod yno.
32. Buon nhw'n arwain y gerddoriaeth o flaen cysegr Pabell Presenoldeb Duw nes i Solomon adeiladu'r deml yn Jerwsalem. Roedden nhw ar ddyletswydd yn y drefn oedd wedi ei gosod.
33. Dyma'r rhai oedd yn y swydd yma, nhw a'u meibion:Disgynyddion Cohath:Heman y cerddor, mab Joel oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Samuel,
34. Elcana, Ierocham, Eliel, Toach,
35. Swff, Elcana, Machat, Amasai,
36. Elcana, Joel, Asareia, Seffaneia,