15. Mae gen ti lawer iawn o weithwyr hefyd, rhai i dorri cerrig, eraill yn seiri maen a seiri coed, a crefftwyr o bob math,
16. i weithio gydag aur, arian, efydd a haearn. Felly bwrw iddi! A boed i'r ARGLWYDD fod gyda ti!”
17. Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i swyddogion Israel i helpu ei fab Solomon.
18. “Mae'r ARGLWYDD, eich Duw, gyda chi! Mae wedi rhoi heddwch i'r wlad. Mae wedi rhoi'r gwledydd o'n cwmpas i mi, ac maen nhw i gyd bellach dan awdurdod yr ARGLWYDD a'i bobl.