1 Cronicl 21:28-30 beibl.net 2015 (BNET)

28. Pan welodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ateb ei weddi ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad, dyma fe'n llosgi aberth yno.

29. Yr adeg honno, roedd Tabernacl yr ARGLWYDD, (yr un roedd Moses wedi ei hadeiladu yn yr anialwch) a'r allor i losgi aberthau arni, wrth yr allor leol yn Gibeon.

30. Ond doedd Dafydd ddim yn gallu mynd yno i ofyn am arweiniad Duw am fod arno ofn cleddyf angel yr ARGLWYDD.

1 Cronicl 21