1 Cronicl 2:22-27 beibl.net 2015 (BNET)

22. Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead.

23. (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead.

24. Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi'n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa.

25. Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron:Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa.

26. Ac roedd gan Ierachmeël wraig arall o'r enw Atara, a hi oedd mam Onam.

27. Meibion Ram (mab hynaf Ierachmeël):Maas, Iamin ac Ecer.

1 Cronicl 2