1 Cronicl 16:37-43 beibl.net 2015 (BNET)

37. Dyma Dafydd yn penodi Asaff a'i frodyr i arwain yr addoliad o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i wneud popeth oedd angen ei wneud bob dydd.

38. Gyda nhw roedd Obed-Edom a'i chwe deg wyth o frodyr. Obed-edom, mab Iedwthwn, a Chosa oedd yn gofalu am y giatiau.

39. (Roedd wedi gadael Sadoc yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, i wasanaethu o flaen tabernacl yr ARGLWYDD wrth yr allor leol yn Gibeon.

40. Roedden nhw i losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr aberthau. Roedden nhw i wneud hyn bob bore a gyda'r nos fel mae'n dweud yn y gyfraith oedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Israel.)

41. Yno gyda nhw roedd Heman, Iedwthwn ac eraill. Roedd y rhain wedi eu dewis wrth eu henwau i ddiolch i'r ARGLWYDD (Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!)

42. Heman a Iedwthwn oedd yn gofalu am yr utgyrn a'r symbalau a'r offerynnau cerdd eraill oedd yn cael eu defnyddio i foli Duw. A meibion Iedwthwn oedd yn gwarchod y fynedfa.

43. Yna dyma'r bobl i gyd yn mynd adre, ac aeth Dafydd yn ôl i fendithio ei deulu ei hun.

1 Cronicl 16