1 Cronicl 15:15-21 beibl.net 2015 (BNET)

15. A dyma'r Lefiaid yn cario Arch Duw ar eu hysgwyddau gyda pholion, am fod Moses wedi dweud mai dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn.

16. Yna dyma Dafydd yn dweud wrth arweinwyr y Lefiad i ddewis rhai o'u perthnasau oedd yn gerddorion i ganu offerynnau cerdd, nablau, telynau a symbalau, ac i ganu'n llawen.

17. Felly dyma'r Lefiaid yn penodi Heman fab Joel; un o'i berthnasau, Asaff fab Berecheia; ac un o ddisgynyddion Merari, Ethan fab Cwshaia.

18. Yna cafodd rhai o'u perthnasau eu dewis i'w helpu: Sechareia, IaƤsiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffelehw, Micneia ac Obed-Edom a Jeiel oedd yn gwylio'r giatiau.

19. Roedd y cerddorion Heman, Asaff ac Ethan i seinio'r symbalau pres;

20. Sechareia, Asiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Maaseia, a Benaia i ganu telynau bach;

21. Matitheia, Eliffelehw, Micneia, Obed-Edom, Jeiel ac Asaseia i ganu'r telynau mawr, gydag arweinydd yn eu harwain.

1 Cronicl 15