1 Corinthiaid 4:7-12 beibl.net 2015 (BNET)

7. Beth sy'n eich gwneud chi'n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi ei dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy'r cwbl, beth sydd i frolio amdano? – fel petaech chi'ch hunain wedi cyflawni rhywbeth!

8. Edrychwch arnoch chi! Dych chi'n meddwl fod popeth gynnoch chi yn barod! Dych chi mor gyfoethog! Dyma chi wedi cael eich teyrnas – a ninnau'n dal y tu allan! Byddai'n wych gen i tasech chi yn teyrnasu go iawn, er mwyn i ninnau gael teyrnasu gyda chi.

9. Wyddoch chi, mae'n edrych fel petai Duw wedi ein gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn – y rhai sydd wedi eu condemnio i farw yn yr arena. Dŷn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru'r byd – pobl ac angylion.

10. Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi'n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau'n destun sbort!

11. Hyd heddiw dŷn ni'n brin o fwyd a diod, a heb ddigon o ddillad i'n cadw'n gynnes. Dŷn ni wedi cael ein cam-drin a does gynnon ni ddim cartrefi.

12. Dŷn ni wedi gweithio'n galed i ennill ein bywoliaeth. Dŷn ni'n bendithio'r bobl sy'n ein bygwth ni. Dŷn ni'n goddef pobl sy'n ein cam-drin ni.

1 Corinthiaid 4