1 Corinthiaid 4:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dylech chi'n hystyried ni fel gweision i'r Meseia – gweision sydd â'r cyfrifoldeb ganddyn nhw o esbonio pethau dirgel Duw.

2. Wrth gwrs, mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon.

3. Felly dim beth dych chi na neb arall yn ei feddwl sy'n bwysig gen i; yn wir, dim beth dw i fy hun yn ei feddwl sy'n bwysig hyd yn oed!

4. Mae nghydwybod i'n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i'n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy'n cyfri.

1 Corinthiaid 4