7. Ddylai dyn ddim gorchuddio'i ben am ei fod yn ddelw Duw ac yn dangos ei ysblander; ond dangos ysblander dyn mae'r wraig.
8. Nid dyn ddaeth o wraig, ond y wraig ddaeth o ddyn.
9. A chafodd dyn ddim ei greu er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn dyn.
10. Dyna pam dylai gwraig gadw rheolaeth ar y ffordd mae pobl yn edrych arni – ac o achos yr angylion hefyd.
11. Beth bynnag, yn yr Arglwydd dydy gwraig a dyn ddim yn annibynnol ar ei gilydd.
12. Mae'n wir fod y wraig wedi dod o'r dyn, ond mae'n wir hefyd fod pob dyn yn cael ei eni o wraig. Ac o Dduw mae'r cwbl yn tarddu yn y pen draw.
13. Beth ydy'ch barn chi? Ydy hi'n weddus i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen?
14. Ydy natur ei hun ddim yn dysgu hyn i chi: os ydy gwallt hir yn diraddio dyn,
15. ei bod yn beth anrhydeddus i wraig gael gwallt hir? Mae ei gwallt hir wedi ei roi iddi hi fel gorchudd.
16. Os ydy rhywun am ddadlau am hyn, does gynnon ni ddim arfer gwahanol. A does gan eglwysi Duw ddim chwaith.