26. Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal bron iawn bedwar deg pum mil litr o ddŵr.
27. Gwnaeth Hiram ddeg troli ddŵr o bres hefyd. Roedd pob un yn ddau fetr o hyd, yn ddau o led a bron yn fetr a hanner o uchder.
28. Dyma gynllun y trolïau: roedd ganddyn nhw fframiau yn dal paneli ar yr ochr.
29. Roedd y paneli wedi eu haddurno gyda lluniau o lewod, ychen a ceriwbiaid. Ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen, roedd patrymau wedi eu plethu.
30. Roedd gan bob troli bedair olwyn bres ar echelau pres. Ar bob cornel roedd silff fach i'r ddysgl eistedd arni. Roedd y rhain yn rhan o'r troli ac wedi eu haddurno gyda phlethiadau.
31. Tu mewn i'r troli roedd ffrâm crwn, pedwar deg pump centimetr o ddyfnder, i ddal y ddysgl. Roedd yn gylch saith deg centimetr ar draws. O gwmpas y geg roedd border o addurniadau. Roedd y paneli'n sgwâr ac nid crwn.
32. Roedd pedair olwyn o dan y paneli, ac roedd soced i ddal echel pob olwyn yn sownd yn y ffrâm. Saith deg centimetr oedd uchder yr olwynion.
33. Roedd yr olwynion wedi eu gwneud fel olwynion cerbyd rhyfel. Roedd yr echel, yr ymyl, y sbôcs a'r both i gyd o fetel wedi ei gastio.
34. Roedd pedair silff fach ar bedair cornel y troli, ac roedd y silffoedd wedi eu gwneud yn rhan o'r ffrâm.
35. Ar dop y troli roedd cylch crwn dau ddeg centimetr o uchder. Ar ei dop hefyd roedd cylchoedd a phaneli yn sownd ynddo.