1 Brenhinoedd 21:1-2 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wedyn dyma hyn yn digwydd: Roedd gan ddyn o'r enw Naboth, o Jesreel, winllan reit wrth ymyl palas Ahab, brenin Samaria.

2. A dyma Ahab yn gwneud cynnig i Naboth, “Rho dy winllan i mi, i mi gael ei throi hi'n ardd lysiau gan ei bod hi reit wrth ymyl y palas. Gwna i roi gwinllan well i ti yn ei lle hi. Neu, os wyt ti eisiau, gwna i dalu pris teg i ti amdani.”

1 Brenhinoedd 21