Y Salmau 99:7-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a'r ddeddf a roddodd efe iddynt.

8. Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion.

9. Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.

Y Salmau 99